Rydym wedi ein lleoli ym Mhenrhyn Llyn ger Aberdaron.
โ
Dyma leoliad perffaith yng nghanol cefn gwlad am ddihangfa perffaith yng Ngogledd Cymru. Os ydych chi awydd penwythnos i ffwrdd neu wythnos i ymweld a mannau newydd, mae'n leoliad yn ddelfrydol i gyplau, ffrindiau neu deulu sydd yn chwilio am amser i ymlacio mewn caban moethus a chlyd.
Croeso i
Glampio Coed Glamping
Glamping Coed Christmas Edition Vouchers
Coed Airsoft
Gwirioneddol wych!
Mae gem AIRSOFT yn gem ar gyfer grwp o ffrindiau, stags, iario,
gwaith tim neu ar gyfer y teulu cyfan! Rydych angen cynifer a 8 chwaraewr i gael gem dda.
Cysylltwch gyda Alun: Yma
Glampio
Ansawdd Rhagorol
Mae Glampio Coed yn safle mewn rhan hyfryd o Benrhyn Llyn, y fangre perffaith i ddianc o rialtwch y byd a'i betws yng Ngogledd Cymru.
โ
Rydym wedi ein lleoli yng nghanol Pen Llyn. Os ydych yn chwilio am 2 noson, penwythnos neu wythnos gyfan o fwynhau, ymweld a chrwydro, mae'n gyrchfan perffaith i deulu neu ffrindiau i geisio amser i ymlacio mewn awyrgylch hamddenol.
โ
Rydym yn codi ffi bychan o £10 y plentyn am yr arhosiad!
Amdanom
Fe agorwyd y safle ym mis Mai 2018 gyda 3 caban pren, bloc cawod/toilet newydd sbon ynghyd a chegin gymunedol. Ond erbyn hyn, mae ganddom 7 caban yn cynnwys dau gyda 'ty bach' (toilet) ac un ar gyfer person gyda anabledd.
Ein gweledigaeth yw cynnig ‘glampio’ o safon uchel mewn amgylchedd tawel a heddychlon. Rhoi'r cyfle i’n cwsmeriaid i ddeffro i sลตn adar yn trydar ben bore a mwynhau awyrgylch nefolaidd yng ngolau tân fîn nos .
Nid oes dim yn rhoi mwy o foddhâd i ni na gweld ymwelwyr yn mwynhau eu hunain. Byddwn wrth ein bodd yn cynnig dyddiau allan, mannau bwyta a theithiau cerdded i gwsmeriaid.
Mae gyrru ymwelwyr i flasu prydferthwch yr ardal sydd o’u cwmpas yn ‘Glampio Coed’ yn rhoi boddhâd mawr i ni yn ogystal a chael y cyfle i gefnogi busnesau lleol eraill.