Amdanom ni
Ein Stori Ni
Agorwyd y gwersyll ym mis Mai 2018. Roedd ganddom dri ‘pod’ a y pryd yn cynnwys bloc cawod a chegin gymunedol newydd sbon.
​
Ein gweledigaeth yw cynnig ‘glampio’ o safon uchel mewn amgylchedd tawel a heddychlon. Rhoi y cyfle i’n cwsmeriaid i ddeffro i sŵn adar yn trydar ben bore a mwynhau awyrgylch nefolaidd yng ngolau tân fîn nos.
​
Yn y dechreuad
Yn wreiddiol prynodd Alun hanner can acer o’r goedwig er mwyn gwerthu coed tân. O ganlyniad, ymestynodd ar ei fusnes fel ymgymerwr amaethyddol.
​
Adeiladwyd y podiau gan Alun a’i frawd Siôn. Dechreudodd y freuddwyd yn dilyn aros mewn gwersyll glampio. Taniodd dychymyg Alun i greu ‘pod’ gyda dipyn mwy o le na phodiau arferol. Defnydddiwyd coed o’r goedwig i adeiladu rhannau o’r ‘pod’. Cwpwrdd ochr gwely yw boncyff coeden a dorrwyd gan Alun ei hun o’r goedwig.
​
Erbyn hyn, mae ganddom 7 'pod' ar y safle. Mae ein pod yn 6 medr o hÅ·d a 3 medr o lȇd. ‘Pod’ eang iawn gyda digon o le. Mae'r ‘pod’ eang iawn gyda digon o le.
​
Cyn bennaeth yw Nia, a theimla’ bod y sgiliau a ddysgodd yn ei swydd yn fantais ar gyfer y busnes.
Nia sydd wedi addurno y ‘podiau’. Ei nôd oedd creu ystafell foethus a chyfforddus ar gyfer ei chwsmeriaid gyda phwyslais ar noson dda o gwsg! Mae cyffyrddiadau diddorol o fewn y ‘pod’ gyda phwyslais ar roi blâs o Gymru i’w chwsmeriaid.
Gweledigaeth Alun a Nia
"Nid oes dim yn ei rhoi mwy o foddhâd i ni na gweld ymwelwyr yn mwynhau eu hunain.
Rydym yn cynnig dyddiau allan, mannau bwyta a theithiau cerdded i gwsmeriaid. Mae gyrru ymwelwyr i flasu prydferthwch yr ardal sydd o’ n cwmpas yn ‘Glampio Coed’ yn rhoi boddhâd mawr inni yn ogystal a chael y cyfle i gefnogi busnesau lleol.
​
Rydym yn credu y dylai ein cwsmeriaid dderbyn y lefel uchaf o wasanaeth, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu hynny.
Archwiliwch ein gwefan i ddysgu mwy am yr hyn yr ydym yn ei gynnig, a chysylltwch os oes ganddoch unrhyw gwestiwn. Mae gwasnaeth Glampio Coed yma i chi".