top of page

POLISIAU CYFREITHIOL

Legal Policies: List

Mesuriadau Coronafeirws

Polisi Preifat Yr Unigolyn

Polisi Archebu

a Gohirio

Telerau

Defnyddio

Hygyrchedd

Croeso i Glampio Coed a diolch am ymweld a ni.  Wrth gyrchu drwy ein safle ar y we, rydych yn cytuno i'r termau yma. Gofynnwn i chi eu darllen yn ofalus.

POLISI ARCHEBU A GOHIRIO

Termau ac Amodau

​

Glampio Coed Glamping LL53 8HL

​

Mae’r telerau ac amodau hyn, y gellir eu diwygio o bryd i’w gilydd, yn berthnasol i’n holl archebion a thrwy gwblhau archeb, rydych yn cydnabod ac yn cytuno eich bod wedi darllen, deall a chytuno i’r telerau ac amdau a nodir isod.

 

Polisi Archebu:

 

  • Mae pod taliad i'w derbyn yn llawn wrth archebu.

 

  • Bydd rhaid bod dros 18 oed i wneud archeb

 

  • Os nad ydych yn derbyn cadarnhad o'r archeb, cysylltwch a ni drwy ebost neu ffon.

 

  • Bydd cadarnhad o bod archeb yn cael eu gyrru ar ol derbyn y taliad.

​​

  • NI RODDIR AD-DALIAD i westeion llai na 4 wythnos o ddyddiad y gwyliau.

​

  • Rydym yn derbyn archebion ar y dealltwriaeth fod ein cabannau ar gyfer 'pwrpas gwyliau' yn unig, am yr amser a gytunwyd arno a nifer sydd wedi archebu i aros.

​

  • Mae'r person sydd yn archebu i aros yn gyfrifol o rannu y gywbodaeth perthnasol i eraill e.e termau ac amodau y safle a gwybodaeth o'r hyn sydd ar y safle.

​​

  • Os nad yw’r eiddo ar gael ar y dyddiadau a archebwyd am unrhyw reswm tu hwnt i reolaeth y perchennog, bydd yr holl daliadau a dalwyd ymlaen llaw gan westeion yn cael eu had-dalu’n llawn (nid oes gan westeion yr hawl i wneud hawliad pellach yn erbyn y perchnogion).

 

  • Ni allwn dderbyn unrhyw rwymedigaeth nac atebolrwydd am unrhyw newid neu ohirio / ganslo a achosir gan dywydd gwael, ymryson sifil, streiciau, problemau trawososd technegol neu amgylchiadau eraill.

​​

  • Mae ganddom isafswm aros 2 noson, ond ys ydych yn awyddus i aros 1 noson yn unig, cysylltwch a ni drwy ebost: glampiocoed@gmail.com

 

Taliad:

 

  • Bydd eich taliad yn cael ei dynnu yn ddiogel via Stripe. Bydd taliad yn cael ei dynnu o bunnoedd y Deyrnas Unedig.

 

 

Amseroedd cyrraedd a gadael:

 

  • Mae’r cabanau glampio ar gael o 3:00yp ar y diwrnod y byddwch yn cyrraedd y safle i 10:00yb ar y diwrnod y byddwch yn gadael.

​​

  • Os bydd angen i chi gyrraedd yn gynharach na 3:00yp neu aros yn fwy na 10:00yb, mae croeso i chi dalu £10 am bob awr e.e aros hyd at 11:00yb a thalu £10 yn ychwanegol.

 

Polisi Gohirio:

​

  • NI RODDIR AD-DALIAD i westeion sydd yn 'canslo' llai na 4 wythnos o ddyddiad y gwyliau.

​​

  • Efallai y bydd yn bosibl, os y dymunwch, i newid dyddiadau eich gwyliau, os oes argaeledd. Ni ellir aildrefnu llai na 1 mis cyn eich archeb gwreiddiol.

 

 

Parcio:

 

  • Mae maes parcio neu le i barcio’ch car (wrth ymyl y pod) ar gael, mae hyn yn gyfan gwbl ar eich risg eich hun ac ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddifrod neu ladrad i’ch cerbyd. Sicrhewch, os cewch ddamwain, eich bod yn adrodd yn ol i’r perchnogion fel y gallent nodi y digwyddiad mewn Llyfr Damweiniau.

​​

  • Os yw'r cae yn wlyb, gofynnwn i'n cwmeriaid barcio y car yn y maes parcio a cherdded at y caban.

 

Damwain:

 

  • Os ydych yn cael damwain, gofynnwn i chi i hysbysu y perchnogion er mwyn ei gofnodi yn ein llyfr damweiniau.

 

 

Cegin ac ardal gymunedol:

 

  • Mae pob eiddo yn hollol ddi-fwg (dim ysmygu).

​

  • Dylai pob caban, y gegin gymunedol a’r bloc cawod gael eu gadael yn yr un cyflwr glendid y daethpwyd iddo.

​

  • Mae’r sawl sy’n aros yn y cabanau gwyliau yn ymrwymo i gdaw’r adeilad a’r dodrefn yn yr un cyflwr a oedd ar gychwyn eu gwyliau. Bydd angen iawndal arnom am unrhyw ddifrod, toriadau neu golli eitemau.

​

  • Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am eiddo personol naill ai yn y cabanau glampio neu mewn ceir sydd wedi’u parcio y tu allan i’r eiddo.

 

Perygl Tan:

​​

  1. ​Stof goed tu mewn i'r caban pren: PEIDIWCH a gadael y tan heb oruchwyliaeth.

  2. Peidiwch a rhoi BBQ ar y decing pren.

  3. Peidiwch a rhoi BBQ yn agos i'r caban pren.

  4. Ni ellir symud y 'tan agored', ond peidiwch ac eistedd yn rhy agos iddo.

 

Safle AIRSOFT:

​

Mae Glampio Coed yn safle lle mae gweithgaredd antur yn digwydd ar ryw adeg o’r dydd. Gofynnir i westeion gadw draw o’r giat bren ger y brif fynedfa.

 

Ni all perchnogion dderbyn unrhyw atebolrwydd i unrhyw un sy’n mynd i mewn i safle AIRSOFT heb ganiatad.

 

Cwn:

 

  • Caniateir cŵn sy’n ymddwyn yn dda ac y gellir eu rheoli ar y safle, ond ni chaniateir iddynt orwedd ar y gwely na’r soffa. Rhaid peidio a gadael cŵn ar ben eu hunain yn y caban nac unrhyw le ar y safle.​​

 

 

Archeb grwpiau:

​

  • Os ydych yn cynllunio i gael parti swnllyd drwy'r nos, NID yw ein safle yn eich siwtio chi!.

​​

  • Mae'n hanfodol fod pawb o'r grwp yn ymwybodol or' Termau ac Amodau isod.

 

  • Mae cyfrifoldeb i esbonio y termau ac amodau ynghlwm ar person sydd yn trefnu yr arhosiad.

​​

RYDYM YN CADW’R HAWL I OFYN I UNRHYW UN SY’N ACHOSI AFLONYDDWCH, ANNIFYRDOD I WESTEION ERAILL NEU YMDDWYN YN ANWEDDUS I ADAEL Y SAFLE AR UNWAITH! RYDYM YN GWEITHREDU POLISI 'SWN TAWEL' AR EIN SAFLE.

​

Dim ond y gwesteion sydd wedi archebu sydd a'r hawl i aros ar ein safle. Os oes mwy o westeion (oedolion neu blant) yn bwriadu aros yn ychwanegol, mae'n rhaid cael caniatad y perchnogion i wneud hyn! Cerddoriaeth tawel i'w ganiatau hyd at 10yh.

​

Er tegwch i bobl ar eu gwyliau a phobl ar y safle, rydym yn cadw’r hawl i ofyn i unrhyw un sy’n achosi aflonyddwch, annifyrdod i westeion eraill neu ymddwyn yn anweddus i adael y safle ar unwaith! Os oes unrhyw ddifrod i'r eiddo yn ystod eich arhosiad, gofynnwn i chi gysylltu a'r perchnogion ar unwaith. Os oes difrod mawr i'r adeilad byddwn yn gofyn i'r grwp cyfan i dalu yn llawn am y difrod. Peidiwch a defnyddio tan gwyllt, gwreichion na lanteri 'Chinese'.

​

​

​

MESURIDADAU CORONAFEIRWS

Rydym yn hapus iawn i groesawu ein gwesteion i Glampio Coed. Mae'n bleser gweld ein cwsmeriaid rheolaidd a chroesawu cwsmeriaid newydd i'n safle. Rydym yn derbyn archebion i aros yn ystod y flwyddyn 2021.

 

Rydym yn cymryd camau pwysig fel ymateb i Cofid-19 i’n galluogi i agor ein safle a gofalu fod pawb yn ddiogel.

​

Dyma'r camau rydym yn ei cymryd:

​

1. Gwarchod ein gwesteion - Cofid-19

Rydym yn hynod o ofalus fod Glampio Coed yn rhydd o’r Covid-19. Er mwyn ein gallugoi i barhau i wneud hyn, gofynnwn yn garedig i’n cwsmeriaid ddarllen rheolau ac argymhellion Llywodraeth Cymru ar Covid-19: https://gov.wales/coronavirus-regulations-guidance.  Gofynnwn i’n cwsmeriaid i aros adref os ydynt neu unrhyw un o’r parti wedi cael gwres uchel, tagu parhaol, anadl byr, colli blas ac arogl neu wedi bod mewn cysylltiad gyda rhywun sydd wedi ei heintio yn y 14eg diwrnod diwethaf. Gofynnwn i’n cwsmeriaid adael y caban ar unwaith os ydynt yn dangos unrhyw symtomau o Covid-19. Yn ychwanegol, os ydych yn derbyn un o’r symotmau uchod ar ôl ymadael a Glampio Coed, gofynnwn i chi gysylltu a ni ar unwaith.

​

2. Cabannau Glampio: Bydd pob caban yn cael eu lanhau yn drylwyr gyda mesuriadau pendant yn eu lle ar gyfer ardaloedd cyswllt uchel:

• Di-heintio arwynebedd caled

• Golchi llestri, sosbenni a chyllyll a ffyrc rhwng pob cwmser

• Di-heintio llawr caled

• Gorchuddio cobennydd gyda gorchudd amddiffyn

• Newid dillad gwlau i gyd i’r gorchudd matres rhwng pob cwsmer

• Golchi dillad gwlau ar dymheredd uchel

• Ni fyddwn yn caniatau ymwelwyr allanol i ymweld a chwsmeriaid glampio.

• Ni fyddwn yn darparu plancedi cynnes

​

  • 3. Cegin a chyfleusterau coginio: 

• ‘Hob nwy’ i’w ddefnyddio tu mewn y gegin gymunedol neu tu allan i’r caban i goginio

• Padell ffrio a sosban

• Meicrodon

• Rhewgell

• Oergell

• Peiriant golchi dillad a sychu

• Toaster​

 

4. Bloc cawod/toilet.  Dyma’r mesurau rydym wedi eu cymryd ar gyfer diogelwch:

• Sebon di-heintio tu allan i’r bloc cawod/toilet ar gyfer ein cwsmeriaid

• Glanhau trylwyr yn ystod eich arhosiad

• Glanhau handlen drws ac arwynebedd caled (tu mewn a thu allan)

• Glanhau arwynebedd caled

• Glanhau llawr yn drylwyr

 

5. Diwedd eich arhosiad Er mwyn lleihau’r risg i’n staff glanhau, gofynnwn yn garedig i chi:

• Wagio eich bin sydd yn y caban i fewn i’r bin mawr tu ôl i’r bloc cawod. Cofiwch ddefnyddio ein sebon di-heinito cyn ac ar ôl agor y bin sbwriel mawr

• Tynnwch y dillad gwlau a chobennydd a’i rhoi yn y bag coch pwrpasol sydd wedi ei ddarparu ichi.

• Agorwch y ffenestr a‘r drws pan fyddwch yn ymadael

​

POLISI PREIFAT YR UNIGOLYN

Mae o bwysigrwydd mawr ein bod yn amddiffyn gwybodaeth personol a phreifat ein gwesteion.

​

Casglu Data, defnydd a rhannu

Ni yw yr unig rai sydd yn casglu gwybodaeth amdanoch ar ein safle. Rydym yn casglu Data o wybodaeth gwirfoddol gan ein gwesteion sydd yn aros yma, ni fyddwn yn rhoi unrhyw wybodaeth i neb arall, oni bai eich bod yn nodi yn wahanol, gallwn eich hysbysu i ddweud am ddiweddariad Glampio neu Airsoft, neu newidiadau yn ein polisi preifat.

​

Rheolaeth dros Data

Mae croeso i chi gysylltu gyda ni unrhyw adeg i wybod pa wybodaeth sydd ganddom amdanoch, neu i newid unrhyw wybodaeth, neu ddiweddariad, neu i fynegi consyrn sydd ganddoch o'n Data.

​

Gwybodaeth Diogelwch

Rydym yn cymryd camau pendant i amddiffyn eich gwybodaeth. Mae Data sensitif bob amser yn saff a diogel.

TELERAU DEFNYDDIO

Mae 'telerau defnyddio' isod yn gytundeb cyfreithiol rhwng defnyddiwr unigol a Glampio Coed ynglyn a defnydd o'n gwefan a'n gwasanaeth. Gofynnwn i chi ddiweddaru y canllawaiu hyn yn ol eich polisi penodol chi.

​

Defnyddio ein safle.

Cewch ddefnyddio ein safle and gwasanaeth ond drwy hawl cyfreithiol yn unig. Gallwn atal neu terfynu eich mynediad os na allwch gydymffurfio gyda'n polisiau neu os ydym yn ymchwilio i gaymddwyn honedig.

​

Cyfathrebu

Gallwn yrru newyddion cyfforus neu gyhoeddiad a gwybodaeth pwysig arall mewn cysylltiad a'n safle. Gallwch optio allan o hyn unrhyw bryd!

​

Polisi Preifat

Gweler ein polisi preifat ynglyn a sut rydym yn delio a gwybodaeth personol ac amddiffyn eich Data perifat wrth i chi ymweld a'n safle.

HYGYRCHEDD

Wedi ymrwymo i'ch anghenion

Croeso

 

Mynediad gwastad:

Mae mynediad gastad yn y prif fynedfa. Mae mynediad gwastad o'r prif fynedfa tuag at pod caban, cegin gymunedol a'r bloc cawod/toilet. Mae un caban gyda ramp, yr un agosaf i'r bloc cawod. Mae'r ramp wedi ei osod yn barhaol. Mae'r llwybr i'r caban yn 1.2 medr o led ac yn 1065mm o lydan.

Mynediad gyda grisiau: Mae 2 ris ar gyfer 6 caban pren arall.

​​

​​

Bloc cawod/toilet

  • Mae ganddom ystafell gawod/toilet ar gyfer anabledd gyda mynediad gwastad.

​​

Gweledol

  • Mae ganddom wybodaeth ar gael mewn print mawr

  • Mae gwybodaeth cwsmeriaid ar gael mewn fformat o brint mawr.

​​

Cyffredinol

  • Gwesteion hyn sydd ddim mor abl

  • Defnyddwyr cadair olwyn rhan amser

  • Defnyddwyr cadair olwyn a chymorth

  • Gwesteion a nam ar eu golw

bottom of page