FAQ
Atebion i'ch cwestiynau
Gweler isod wybodaeth defnyddiol ar eich cyfer. Ewch dwy'r rhestr yma yn gyntaf cyn cysylltu a ni. Os ydych angen mwy o wybodaeth yna cysylltwch ar unwaith, byddwn yn hapus i'ch cynorthwyo.
C: Beth mae'r pris yn ei gynnwys?
A. Y pris a welwch yw'r pris a dalwch, does dim costau ychwanegol. Mae'r pris yn cynnwys dillad gwlau o safon uchel (cobennydd, duvet a gorchudd gwely), tyweli moethus a thywel golchi llestri. Bydd pob gwely wedi ei ddarparu ar eich cyfer. Tu allan i'r caban mae tan agored, barbeciw, 2 gadair campio a bwrdd picnic pren. Cewch ddefnydd llawn o'r gegin gymunedol: rhewgell, oergell fawr, meicrodon, toaster a hob nwy. Bwced llawn o goed ar gyfer caban gyda stof goed.
C: Beth allaf ei brynu?
A. Rydym yn gwerthu coed tan ar gyfer y tan agored, siarcol ar gfyer BBQ am £3 y bag.
C: Gawn ni ddod a ci i aros?
A: Rydym yn croesawu cwn sydd o dan reolaeth am ffi bychan o £10 am yr arhosiad. Nid ydym yn caniatau i gwn fod tu mewn i'r bloc cawod/toilet na'r gegin gymunedol. Gofynnwn yn garedig i berchnogion cwn ofalu eu bod o dan reolaeth bob amser - rydym ynghanol cefn gwlad lle mae anifeiliaid fferm o'n cwmpas.
C: A oes toilet tu mewn y caban?
A: Mae toliet tu mewn i 2 gaban sef: Porthor a Porth Neigwl. Dim angen i chi gerdded i'r bloc cawod ynghanol nos.
C: A oes cawod ar gael?
A. Mae ganddom floc cawod/toilet newydd sbon o safon uchel. Rydym yn codi ffi bychan am gawod poeth: 20c am 1 munud, 40 c am 2 funud... neu £1 am 8 munud.
C: A oes dwr yn y cabanau?
A. Mae tap dwr ar y ffens tu ol i'r caban.
C: Beth yw cyfleusterau coginio?
A. Mae ganddom gegin gymunedol yn cynnwys sinc, hob nwy, toaster, oergell fawr, rhewgell, popty ping, peiriant golchi dillad a sychwr dillad.
C:Ydi hi'n bosib dod a 'travel cot' efo ni?
A: Mae digon o le i 'travel cot' mewn unrhyw caban,
C: Beth yw nifer nosweithiau sydd ar gael i aros?
A: Rydym yn cynnig isafswm 2 noson o aros, penwythnos neu 7 diwrnod.
C: Beth yw'r amser cynharaf i ni gyrraedd?
A: Rydym yn croesawu cwmeriaid o 3yp ymlaen.
C: A gawn ni barcio ger y caban pren?
A: Yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf bydd croeso i chi barcio ochr dde i'r caban sydd yn gyfleus iawn. Ond yn ystod misoedd y gaeaf, pan mae'r tywydd yn wlyb, gofynnwn yn garedig i bawb barcio yn y maes parcio.
C: A gawn ni ddefnyddio BBQ/ Tan agored?
A: Cewch ddefnyddio ein twb 'tan agored' a BBQ sydd o flaen y caban yn ystod eich arhosiad. Nid ydym yn gadael i gwsmeriaid roi BBQ ar y decing pren!
C: Sut ydym yn cadw bwyd/diod yn oer?
A: Mae oergell fechan ymhob caban ac oergell fawr yn y gegin gymunedol.
C: Lle mae manylion cysylltu a lleoliad y safle?
A: Ar ol i chi gwblhau eich archeb, fe fyddwn yn gyrru dogfen croeso yn cynnwys manylion cysylltu a gwybodaeth am y safle.
C: A ydych yn cyflenwi trydan, Wifi yn y cabanau pren?
A. Mae trydan ymhob caban, nid oes Wifi ar y cae. Ond, mae'n bosib defnyddio 4G.
C: A oes 'signal' ffon symudol ar y safle/
A: Oes mae 'signal' ffon ar y safle.
C: A ydym yn gorfod glanhau y caban ar ol ein arhosiad?
A. Gofynnwn yn garedig i chi adael y caban yn lan a thaclus, golchi llestri a gwagio y sbwriel o'r caban i ardal ysbwirel ar y cae. Os ydych yn aros gyda ffrindiau, gwnewch yn siwr fod pod eitem wedi ei roi yn ol yn y caban cywir.
C: A ydych yn derbyn archeb grwpiau mawr ar gyfer oedolion?
A. Rydym yn derbyn archeb ar gyfer grwpiau mawr o oedolion. Rydym yn lletya rhwng 14-18 mewn 7 caban. I siarad gyda cyd-lynydd grwpiau mawr, ffoniwch 01758 719180 neu ebostiwch glampiocoed@gmail.com
C: A ydym angen dod ac offer coginio, llestri neu gytleri efo ni?
A. Mae yr uchod i gyd yn y caban pren neu yn y gegin gymunedol at eich defnydd chi. Popeth rydych ei angen!
C: Beth ydych yn ei argymell i ni ddod yn ychwnaegol gyda ni?
Os nad ydych yn bwriadu siopa ar ol cyrraedd, dewch a bwyd a diod efo chi.
Dewch a phlancedi i gynhesu er mwyn eistedd o flaen y tan agored yn syllu ar y ser.
C: A yw gemau 'pel' yn cael eu chwarae ar y safle?
A. Croeso i chi chwarae gemau pel ar y safle! Mae digon o lefydd i chwarae tu allan yn y cae o flaen y cabanau.
C: A oes person cymwysedig ac adnoddau Cymorth Cyntaf y safle?
A. Mae dau berson cymwysedig Cymorth cyntaf ar y safel ynghyd ac adnoddau Cymorth 1af.