
CROESO
Rydym wedi ein lleoli ym Mhenrhyn Llyn ger Aberdaron.
Dyma leoliad perffaith am dihangfa yng nghanol cefn gwlad, Gogledd Cymru. Os ydych chi awydd penwythnos i ffwrdd neu wythnos i ymweld a mannau newydd, mae'r l leoliad yn ddelfrydol i gyplau, ffrindiau neu deulu sydd yn chwilio am amser i ymlacio mewn caban moethus a chlyd.
Amdanom
Nia ac Alun (a Nedw'r ci)
Ein gweledigaeth yw cynnig ‘glampio’ o safon uchel mewn amgylchedd tawel a heddychlon. Rhoi'r cyfle i’n cwsmeriaid i ddeffro i sŵn adar yn trydar ben bore a mwynhau awyrgylch nefolaidd yng ngolau tân fîn nos .
Nid oes dim yn rhoi mwy o foddhâd i ni na gweld ymwelwyr yn mwynhau eu hunain. Byddwn wrth ein bodd yn cynnig dyddiau allan, mannau bwyta a theithiau cerdded i gwsmeriaid.
Mae gyrru ymwelwyr i flasu prydferthwch yr ardal sydd o’u cwmpas yn ‘Glampio Coed’ yn rhoi boddhâd mawr i ni yn ogystal a chael y cyfle i gefnogi busnesau lleol eraill.

Sian
Cawson ni wyliau hyfryd gyda'r teulu yn Glampio Coed. Roedden ni wedi archebu dau bod ac roedden nhw'n berffaith! Roedd popeth o safon uchel iawn a'r cyfleusterau wedi'u hystyried yn dda. Roedd y gwres dan y llawr yn hyfryd ac roedd gan ein podiau doiled a oedd yn fantais fawr.
Andre
Gwyliau gwych mewn lleoliad gwych. Roedd y perchnogion a'r staff mor gyfeillgar drwy gydol ein harhosiad. Roedd y pod wedi'i baratoi'n berffaith ac yn gyfforddus iawn. Gyda'r nos, fe wnaethon ni fwynhau ein pitsas cartref ffres a'n cwrw yn yr ardal awyr agored. Mae'r lleoliad yn ddelfrydol os ydych chi eisiau ymlacio neu gallwch ymweld â thraethau godidog gerllaw.
Laurent
Cawson ni barti pen-blwydd ein mab yn gwneud airsoft a phitsas. Am le anhygoel. Roedd y perchnnogion yn ardderchog. Roedd Airsoft yn brofiad gwych i'r holl blant a ni.






















